Boombox Caerdydd
Yn dilyn llwyddiant TAPE a Drwy Lygaid yr Anifail, mae Migrations ac RSPB Cymru, mewn partneriaeth â Chyngor Dinas Caerdydd, yn eich gwahodd i gymryd rhan yn Boombox Caerdydd.
Mewn cydweithrediad â'r artist o'r Unol Daleithiau Ely Kim, rydym yn ffilmio 100 o bobl yn dawnsio i'w hoff gerddoriaeth yn eu hoff mannau gwyrdd.
Bydd y ffilm fer a grëir yn ddathliad o ddawnsio, ardaloedd gwyllt Caerdydd a'i chymunedau, a bydd yn cael ei arddangos mewn digwyddiad byw yn y ddinas gyda 'disco' gydag Ely Kim ei hun i ddilyn.
Mwy o wybodaeth...
Rydym yn chwilio am 100 o bobl sy'n byw, gweithio neu’n chwarae yng Nghaerdydd i'w ffilmio yn eu hoff fan gwyrdd, yn dawnsio i'w hoff gerddoriaeth.
Pa fath o le gwyrdd alla i ddewis?
Unrhyw le sy'n gartref i fyd natur yng Nghaerdydd ac sydd ag arwyddocâd arbennig i chi. O randir i'ch gardd gefn, coeden wych yn y stryd neu barc. Mawr neu fach. Adnabyddus neu o’r golwg. Chi sydd i ddewis.
Pa gerddoriaeth alla i ddewis?
Eich hoff gerddoriaeth i ddawnsio iddo. Pop, roc, jazz, clasurol - chi sydd i ddewis.
Pwy all gymryd rhan?
Pawb, hen neu ifanc, sy'n byw, gweithio neu’n chware yng Nghaerdydd. Does dim rhaid i chi fod yn ddawnsiwr proffesiynol ac nid oes angen profiad blaenorol, y peth pwysig yw mwynhau yn yr awyr agored.
Beth sydd angen i mi ei wneud?
Dewiswch eich hoff ddarn o gerddoriaeth i ddawnsio iddo a'ch hoff fan gwyrdd yng Nghaerdydd, ac yna dewis y dyddiad ac amser pan fyddwch ar gael.
Dewch i gwrdd â ni yno yn barod i ddawnsio a byddwn ni'n gofalu am y gweddill.
Dwi eisiau cymryd rhan!
Cwestiynau Cyffredin
Rhagor o gwestiynau? Cliciwch yma...
Beth allwch chi ei ddweud wrtha i am Ely Kim?
Mae Ely Kim yn artist, cyfarwyddwr celf a dawnsiwr wedi ei leoli yn Brooklyn, Efrog Newydd. Ei brif ddylanwadau yw "cael fy magu yn Las Vegas, cŵn bach a chrisialau". Yn ei Boombox gwreiddiol, fe ffilmiodd ei hun yn dawnsio'n gyfrinachol mewn 100 o lefydd dros 100 o ddyddiau.
Ydw i'n gallu dawnsio gyda rhywun arall neu anifail anwes?
Mae'r profiad hwn yn ymwneud â chi, eich cerddoriaeth a'ch man gwyrdd. Gallwch ddod â rhywun gyda chi, ond dim ond i wylio. Mae fel arfer yn gweithio orau os byddwch ar eich pen eich hun, ond sylwer bod yn rhaid i riant neu warchodwr fod gydag unrhyw blant dan 16 oed.
Faint o amser fydd yn ei gymryd?
Mae'n amrywio - cynlluniwch ar gyfer awr ond dylai gymryd llai na hynny. Byddwn un esbonio i chi beth fydd yn digwydd, yn paratoi'r offer ac yna'n eich ffilmio am tua thri munud yn dawnsio i'ch hoff gerddoriaeth. Os ydych chi'n hapus gyda'r syniad, efallai y byddwn hefyd yn gofyn rhai cwestiynau i chi am y lle rydych wedi ei ddewis. Mae hyn fel arfer yn cymryd tua 15 munud arall.
Beth sy'n digwydd i’r ffilm?
Bydd y ffilm yn cael ei sgrinio mewn darllediad cyntaf y byddwch chi, eich ffrindiau a'ch teulu yn cael eich gwahodd i'w weld. Byddwch hefyd yn derbyn copi o'r ffilm ar DVD. Yna bydd y ffilm ar gael ar-lein ac yn cael ei hyrwyddo gan yr RSPB a Migrations. Efallai y bydd y ffilm hefyd yn cael ei harddangos mewn gwyliau ffilm rhyngwladol.
Pwy sy'n berchen ar y ffilm a'r hawlfraint?
Migrations ac RSPB fydd cyd berchnogion y ffilm. Mae'r ddau sefydliad yn elusennau ac nid er elw.
O ble daeth y cyllid ar gyfer Boombox Caerdydd?
Daw'r cyllid ar gyfer y prosiect yn gyfan gwbl gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Sefydliad Paul Hamlyn a chwsmeriaid Tesco trwy ardoll bagiau siopa untro Llywodraeth Cymru.
A oes angen i mi roi fy nghaniatâd yn ffurfiol i gymryd rhan?
Oes, byddwn yn gofyn i chi lofnodi 'ffurflen ryddhau' syml a safonol sy'n datgan eich bod yn hapus i fod yn y ffilm.
A oes terfyn oedran?
Nid oes unrhyw derfyn oedran. Rhaid i blant fod yn o leiaf pump oed ar y diwrnod pan fyddant yn cael eu ffilmio. Rhaid i riant fynychu gydag unrhyw blant dan 16 oed.
A all fy mhlentyn gymryd rhan?
Gall. Cyn belled â'i fod yn o leiaf bump oed a gyda rhiant neu warchodwr. Bydd angen i blant ddewis eu cerddoriaeth a lleoliad eu hunain a rhaid iddynt ddawnsio eu hunain.
Faint o bobl fydd yn fy ffilmio?
Dim ond un person gyda chamera a boombox yn chwarae eich hoff gerddoriaeth.
Pryd fydd y ffilm yn cael ei gorffen?
Rydym yn disgwyl y bydd y ffilm wedi ei gorffen erbyn y Hydref 2017. Byddwn yn rhoi gwybod i chi wrth i'r prosiect ddatblygu.
Ai dim ond un ffilm ydych chi'n ei chreu?
Rydym yn gwneud un ffilm o 100 o bobl yn dawnsio. Efallai y byddwn hefyd yn creu ffilm ddogfen o hanes 'creu' y ffilm. Os yr hoffech fod yn rhan o hyn, byddwn yn gofyn ambell gwestiwn am eich hoff le, cerddoriaeth a dawnsio pan fyddwn yn cwrdd â chi.
A fydd pawb yn gallu cymryd rhan?
Dim ond 100 o lefydd sydd ar gael felly efallai na fyddwn yn gallu ffilmio pawb sydd eisiau gymryd rhan. Os na allwn ni gynnwys chi yn y ffilm, byddwn yn rhoi gwybod i chi cyn gynted ag y bo modd a byddwch yn dal i dderbyn gwahoddiad i lansiad y ffilm.
Diolchiadau
Mewn partneriaeth â
Cyflwynir Boombox Caerdydd gan RSPB Cymru a Migrations mewn partneriaeth â Chyngor Dinas Caerdydd. Datblygwyd Boombox gan Migrations yn seiliedig ar gysyniad gwreiddiol gan Ely Kim.
#CaerdyddGwyllt